send link to app

Logic Squares (Welsh Edition)


4.4 ( 4064 ratings )
Giochi Istruzione Istruzione
Sviluppatore Alan Peat Ltd
1.99 USD

Byddwch yn fedrus gyda rhifau a meddwl yn strategol yn yr ap mathemategol difyr Sgwariau Rhesymeg. Gan ddechrau gyda’r rhifau 1-10, mae’r chwaraewyr yn gwneud cyfrifiadau gan ddefnyddio pob grid a defnyddio pob rhif unwaith yn unig. Wrth i’r 25 lefel fynd yn fwy anodd, rhaid i’r chwaraewyr osod y rhifau gyda mwy o sgil i wneud yr holl golofnau a rhesi yn gywir.
Mae’r ap yn cael ei wneud yn haws trwy’r dewis o gael ‘help i gychwyn’ ar bob lefel; yn yr un modd gall rhywun sydd wedi meistroli’r gêm ei herio ei hun i orffen pob lefel mewn ffyrdd gwahanol a hynny yn gyflymach. Mae’r gêm yn cyd-fynd yn llwyr â ‘Game Center’ felly gallwch gymharu eich sgôr a’ch amserau â chwaraewyr eraill ar draws y byd.
Gallwch fwynhau’r gêm yn y dosbarth neu gartref. Bydd yn helpu’r chwaraewr i ddefnyddio rhifau yn hyblyg a datblygu dealltwriaeth o egwyddorion mathemategol allweddol mewn ffordd hwyliog, nad yw’n fygythiol. Mwynhewch yr her!

Datblygwr: Gareth Metcalfe, Alan Peat Ltd